P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sally Stephenson ar ôl casglu 939 llofnod ar lein â 729 llofnod papur.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol Llywodraeth Cymru yn annigonol o ran diwallu anghenion busnesau yr effeithir arnynt gan ailbrisiadau diweddaraf adeiladau, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn o fesurau rhyddhad ardrethi parhaol i ysgafnhau'r pwysau ariannol ar fusnesau bychain.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Bro Morgannwg
· Canol De Cymru